
Mae Hybu Gwaith Cymru yn wasanaeth a ariennir gan y llywodraeth sy'n darparu cyngor cyfrinachol, ymarferol am ddim i fusnesau bach yng Nghymru ar iechyd a diogelwch yn y gweithle, rheoli absenoldeb oherwydd salwch a materion dychwelyd i'r gwaith. Drwy ffonio ein Llinell Ymholiadau gallwn:
Bydd Hybu Gwaith Cymru yn ddefnyddiol i chi os ydych yn rheoli busnes bach yng Nghymru, yn cyflogi rhwng 5 a 250 o weithwyr ac ni allwch gael gafael ar gyngor iechyd a diogelwch arbenigol.
Gall gweithwyr yng Nghymru hefyd gysylltu â ni i gael cyngor cyfrinachol am ddim a gallwn ddweud wrthych beth mae angen i chi a'ch cyflogwr ei wneud i wneud eich gweithle yn fwy diogel ac iach.
Os ydych yn gyflogwr yng Nghymru, gallwn hefyd drefnu ymweliad am ddim â'ch safle gan un o'n cynghorwyr arbenigol a fydd yn edrych ar eich problemau iechyd a dioglewch yn drylwyr.
Ffoniwch ni nawr ar 0845 609 6006 neu gwnewch gais i un o'n cynghorwyr gysylltu â chi.